Leighton Andrews AC

Gweinidog dros Addysg a Sgiliau ac Aelod Cynulliad dros y Rhondda

  • Hafan
  • Amdan Leighton
  • Cysylltwch
  • Newyddion Rhondda
  • Newyddion Addysg
  • Lluniau
  • Twitter
  • Facebook
  • English

Amdan Leighton

About Leighton banner copy
Etholwyd Leighton Andrews yn Aelod Cynulliad y Rhondda am y tro cyntaf ym mis Mai 2003, gan gipio’r sedd yn ôl i’r Blaid Lafur o ddwylo Plaid Cymru. Cyn hynny, roedd Leighton yn ddarlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd.


Yn gyn Bennaeth Materion Cyhoeddus y BBC, mae Leighton yn parhau i gymryd diddordeb yn y cyfryngau. Mae wedi rheoli nifer o fusnesau a hefyd wedi gweithio i’r elusennau Age Concern a Blwyddyn Ryngwladol Lloches i’r Digartref. Ym 1997, roedd Leighton yn gyd-sefydlydd ymgyrch Ie dros Gymru yn y refferendwm ar ddatganoli. Ef yw awdur y llyfr Wales Says Yes sy’n adrodd hanes y frwydr i gael y Cynulliad Cenedlaethol.

Yn ei dymor cyntaf yn y Cynulliad roedd Leighton yn aelod o’r pwyllgorau pwnc Addysg, Diwylliant a Menter, Arloesi a Rhwydweithiau, y pwyllgor Archwilio ac roedd hefyd yn gadeirydd pwyllgor rhanbarthol Canol De Cymru. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys yr economi, diwylliant, tai, y cyfryngau, iechyd a chynhwysiant cymdeithasol.

Ar ôl cael ei ail-ethol ym mis Mai 2007, ymunodd Leighton â Llywodraeth Cynulliad Cymru fel Dirprwy Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda chyfrifoldeb arbennig am faterion tai. Pan sefydlwyd y llywodraeth glymblaid newydd ym mis Gorffennaf 2007, penodwyd Leighton yn Ddirprwy Weinidog Adfywio. Ym mis Rhagfyr 2009, ymunodd â Chabinet Carwyn Jones, y Prif Weinidog newydd, fel Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes.

Roedd Leighton yn gynullydd y Grŵp cynllunio ar gyfer ymgyrch drawsbleidiol Ie dros Gymru yn refferendwm mis Mawrth 2011. Cadeiriodd bwyllgor strategaeth ymgyrch etholiad Llafur yn ystod ymgyrch etholiad y Cynulliad 2011 pan gipiodd Llafur bedair sedd ychwanegol. Cynyddodd Leighton ei fwyafrif ei hun yn y Rhondda yn yr etholiad hwnnw.

Fe’i penodwyd yn Weinidog Addysg a Sgiliau gyda chyfrifoldeb am y Gymraeg pan benododd Carwyn Jones ei Gabinet Llafur ar 13 Mai 2011.

Fel Aelod Cynulliad lleol, mae Leighton wedi brwydro dros fuddsoddiad yn y Rhondda, ac mae’r Llywodraeth wedi ymateb gydag arian ar gyfer Ffordd Liniaru Porth Rhondda Fach, Ysbyty newydd yn y Rhondda, cyfleusterau cymunedol ac ieuenctid mewn sawl rhan o’r Rhondda, ac mae arian wedi’i fuddsoddi neu’n mynd i gael ei fuddsoddi mewn meddygfeydd teulu hefyd.

Mae Leighton wedi ymgyrchu’n galed dros y Rhondda, gyda gweithwyr Burberry yn Nhreorci, er enghraifft. Mae’r seren ffilmiau Ioan Gruffydd wedi canmol ymrwymiad Leighton i’w etholaeth, gan ddweud “a gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud wrthych faint rwyf yn edmygu’ch gwaith diflino i ddiogelu ansawdd bywyd a lles eich etholwyr”.

I ffwrdd o fyd gwleidyddiaeth, mae gan Leighton docyn tymor i weld Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ac mae’n gwylio timau chwaraeon lleol y Rhondda hefyd. Mae’n mwynhau’r theatr, sinema a darllen. Mae Leighton yn briod ag Ann ac mae ganddynt ddau o blant.

Recent Posts

  • Cyfweliad a stwff
  • Ymgyrchu yn y saithdegau
  • Gemau Iaith
  • Cymorthfeydd: Ydych chi'n poeni am gostau gwresogi'ch cartref?
  • Ymweliad i Ysgol Pwll Coch
  • Comisiynydd
  • Eisteddfod Cenedlaethol - Araith Cymdeithas Cledwyn
  • Steddfod yn Wrecsam
  • Jiraff yn y Sw
  • Comisiynydd

Categories

  • Addysg
  • Areithiau
  • BBC
  • BBC Cymru
  • Censorship
  • Culture
  • Current Affairs
  • Cyfrwng
  • Cymraeg
  • Cymru
  • Cynulliad
  • Datganoli
  • Devolution
  • Diwilliant
  • Education
  • Election 2007
  • Football
  • General
  • History
  • Housing
  • Labour
  • Likely to be censored
  • Llafur
  • Llywodraeth Cymru
  • map
  • Media
  • Music
  • National Assembly
  • Old blog archive
  • Rhondda
  • Sylwadau
  • Technology
  • TV archive
  • Uncategorized
  • US Politics
  • Wales

Archives

  • February 2012
  • November 2011
  • October 2011
  • August 2011
  • July 2011
  • June 2011
  • May 2011
  • November 2010
  • April 2010
  • February 2010

More...

Search

Subscribe to this blog's feed

Hyrwyddir gan Leighton Andrews AC, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd CF99 1NA. Gynhaliwyd gan Six Apart, 548 4th Street, San Francisco, CA 94107, USA.